Y bws wedi'r ddamwain yn Holborn, Llundain
Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl i do bws yn Llundain gael ei rwygo i ffwrdd.

Mae lluniau ar Twitter yn dangos y bws deulawr gyda’i do wrth ei ymyl yn ardal Holborn yn Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod nhw wedi trin pum person, gyda dau ohonyn nhw yn cael eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau i’w hwynebau.

Cafodd dau berson arall driniaeth am fan anafiadau ac roedd person arall wedi cael anaf i’w ben-glin. Ni fu’n rhaid iddyn nhw gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae lluniau o’r olygfa yn awgrymu y gallai’r bws fod wedi taro coeden oedd yn hongian dros y ffordd.

Meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân y gallai pobl fod wedi eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.