Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad yn Sblot, Caerdydd sydd wedi gadael dyn 33 oed mewn cyflwr difrifol.

Mae Kyle Debono, 24, o Gabalfa wedi cael ei gyhuddo o ymosod, a Frankie Sinclair, 27, o Lanisien wedi cael ei gyhuddo o achosi ffrwgwd yn ogystal â bod ag arf yn ei feddiant.

Mae’r ddau ddyn yn cael eu cadw yn y ddalfa wrth i’r heddlu barhau a’u hymchwiliad.

Cafodd dyn lleol 33 oed ei anafu yn dilyn yr ymosodiad ar 26 Ionawr ac mae o bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae dau ddyn arall 31 a 42 oed o Sblot hefyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn yr ymosodiad ac mae’r heddlu yn chwilio am fwy o unigolion mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad gysylltu â’r heddlu ar 101.