Matthew Gravelle yn 35 Diwrnod
Mae S4C wedi cyhoeddi fod y gyfres ddirgelwch ‘35 Diwrnod’ wedi cael ei chomisiynu am ail gyfres.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau yn yr un ffordd a’r gyfres gyntaf wrth i gorff marw gael ei ganfod.

Siwan Jones a William Owen Roberts yw’r awduron tu ôl i’r ddrama ac mae hi’n cael ei chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Apollo.

Y tro hwn, bydd y ddrama wedi ei lleoli mewn swyddfa yswiriant yng Nghaerdydd, swyddfa sy’n llawn brad a chelwyddau, a byddwn yn dilyn taith cymeriadau newydd dros 35 Diwrnod.

Enillodd y gyfres wobr grefft yn seremoni BAFTA Cymru y llynedd, yn ogystal â chael sawl enwebiad, yn cynnwys yr actor gorau i Matthew Gravelle, fu’n chwarae rhan y traws-wisgwr Patricia, ac am yr awduron gorau.

Bydd y gyfres newydd, fel y gyfres ddiwethaf yn digwydd dros wyth rhaglen.

Dywed Gwawr Martha Lloyd, comisiynydd drama S4C: “Roedd llwyddiant y fformat yn amlwg, gyda dau o awduron gorau Cymru yn cadw’r gwylwyr ar flaenau eu seddau trwy gymeriadau a’r straeon gafaelgar.

“Y tro hwn bydd y gyfres yn cyflwyno cymeriadau newydd sbon, pob un a’u gorffennol, cyfrinachau a’u dirgelwch, fydd yr un mor uchel eu proffil â’r gyfres ddiwethaf.”