Mae staff Tywysog Siarl yn ffraeo cymaint ymysg ei gilydd ac yn rhoi cyllyll yng nghefnau’i gilydd, nes bod ei swyddfa yn Clarence House wedi ennill y llysenw “Wolf Hall”, yn ôl cyfrol newydd am fab y Frenhines.

Mae’r llyfr hefyd yn honni fod yna gymaint o gwympo mas rhwng carfanau, fel bod dêl uchelgeisiol gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd i ddod ag elusennau’r Tywysog i gyd o dan yr un to, wedi methu.

Yn y llyfr, Charles: The Heart of a King gan y newyddiadurwraig, Catherine Mayer, y mae darnau ohono’n cael eu rhyddhau fesul dipyn ym mhapur newydd The Times, mae’n dweud fel hyn:

“Mae un cyn-weithiwr yn cyfeirio at Clarence House fel Wolf Hall, sef y byd llawn brad a chyllyll sy’n cael ei bortreadu gan yr awdures, Hillary Mantel, yn ei chofnod ffuglennol o esgyniad Thomas Cromwell o dan deyrnasiad Harri’r Wythfed.”

A thra bod Tywysog Siarl ei hun yn cael ei adnabod fel “Y Bos” gan y staff i gyd, mae o’n gymeriad ansicr iawn, yn ôl Mayer, sy’n ysgrifennu i gylchgrawn Time.

Mae nifer o’i weithwyr yn teimlo eu bod nhw wedi’u gormesu gan y bobol sy’n gyrru’r drol, y bobol hynny sy’n dirprwyo ar ran y Tywysog, meddai wedyn.

“Nd yw Charles bob amser wedi dewis y bobol orau i fod agosaf ato. Mae’n cyflogi pobol sy’n mynd i ddweud wrtho yr hyn y mae o eisiau’i glywed, yn hytrach na’r rheiny sy’n dweud y gwir.

“Mae hynny, ynghyd â’i ansicrwydd cynhenid, yn gwneud iddo yntau deimlo nad ydi o wedi cael ei gydnabod fel y dylai, na chael y clod haeddiannol; ac mae unrhyw feirniadaeth, ar adegau, yn gallu ei anfon ar gyfeiliorn llwyr.”