Mae arddangosfa yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth heddiw sydd wedi’i hysbrydoli gan y llyfr cyntaf erioed i’w argraffu yn y Gymraeg.
Siôn Pyrs yw awdur Yny lhyvyr hwn ac fe gyhoeddwyd y llyfr yn 1546.
Ynddo mae Siôn Prys o Henffordd yn arddangos rhai o flaenoriaethau pennaf y dyneiddwyr yng Nghymru a’u pryder am ddyfodol yr iaith.
Mae hefyd cymysgedd o’r wyddor, calendr, awgrymiadau garddwriaethol, a hanfodion y ffydd Gristnogol o fewn y cloriau.
Hanes
Roedd gan Siôn Prys ran amlwg yn niddymiad y mynachlogydd yn Lloegr o dan Harri VIII, a chredir ei fod wedi manteisio ar ei safle fel gwas sifil i gasglu llyfrgell o lawysgrifau a llyfrau printiedig, gan gynnwys yr enwog Lyfr Du Caerfyrddin.
Ymysg y trysorau fydd yn cael eu harddangos mae pedair llawysgrif gadwynog o Eglwys Gadeiriol Henffordd, cyfrolau o fynachlogydd a phriordai Aberhonddu, Henffordd a Chaerloyw.
Yn ôl Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol: “Mae hwn yn gyfle prin i weld cyfrolau sydd wedi eu cadwyno i silffoedd Henffordd ers canrifoedd.
“Mae’n gyfle i holi hefyd am gymhellion un o arwyr y Gymraeg, ac un o gewri y Dadeni Dysg’,” meddai.
Bydd arddangosfa ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, yn rhedeg o 31 Ionawr – 27 Mehefin 2015.