Mae gwleidyddion wedi ymuno yn y galwadau am gadw gêmau rygbi’r Chwech Gwlad ar deledu rhad ac am ddim.

Fe ddywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan, Owen Smith, y byddai’n barod i ymladd tros yr achos pe bai bygythiad adeg setlo cytundebau newydd ar ôl 2017.

Ac mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wedi ysgrifennu at bennaeth y Gystadleuaeth yn apelio ar iddyn nhw ddewis cytundeb gyda sianel rad ac am ddim.

“Os byddwn  ni’n dileu cyfle pobol i wylio rhai o gêmau rygbi mwya’r flwyddyn am ddim, gallai diddordeb mewn rygbi bylu a chenhedlaeth o chwaraewyr newydd yn methu â chael eu hysbrydoli i ymuno yn y gamp,” meddai.

‘Ystyried pob dewis’

Mae’r BBC, sy’n gyfrifol am ddarlledu gêmau ar hyn o bryd, wedi rhoi sylw mawr i’r stori ers i bapur newydd y Telegraph ddatgelu bod yr undebau’n “ystyried pob dewis” pan fydd y cytundebau’n cael eu trafod eto.

Dyw Pencampwriaeth y Chwech Gwlad ddim yn un o’r digwyddiadau chwaraeon sy’n gorfod cael eu dangos ar sianeli rhad ac am ddim.