Taron Egerton
Does dim rhaid i bobl o gefndir dosbarth gweithiol deimlo fod ddim lle iddyn nhw yn y celfyddydau, yn ôl un actor o Aberystwyth sydd wedi llwyddo i wneud ei farc yn Hollywood.
Roedd Taron Egerton yn ymateb i’r ffrae ddiweddar a gododd rhwng yr AS Llafur Chris Bryant a’r canwr James Blunt ynglŷn â chefndir breintiedig nifer o actorion a cherddorion adnabyddus heddiw.
Mynnodd yr actor 25 oed, sydd yn serennu yn y ffilm newydd Kingsman: The Secret Service ochr yn ochr â Colin Firth, Michael Caine a Samuel L Jackson, fod digon o gefnogaeth ar gael i unigolion talentog os oedd angen hynny arnyn nhw.
Ond fe gyfaddefodd ei bod hi’n bosib o hyd ei bod hi’n anoddach i bobl o rai cefndiroedd gael eu troed yn y drws.
Cyfle yn RADA
Ar ôl gadael Ysgol Penglais fe symudodd Taron Egerton i Lundain i astudio yng ngholeg perfformio RADA cyn chwarae rhannau mewn sioeau theatr ac ar gyfresi teledu gan gynnwys The Smoke.
Ac fe ddywedodd y Cymro fod actorion a pherfformwyr o bob math o gefndiroedd yn astudio gydag ef yn y coleg.
“[Yn RADA] roedd e’n teimlo fel croestoriad teg o bobl o wahanol hil, cenedl, cefndir diwylliannol, a dosbarth cymdeithasol – beth bynnag mae hynny’n ei feddwl,” meddai Taron Egerton wrth golwg360.
“Fe ges i gefnogaeth wych gan fy ysgol ddrama i achos fydden i ddim wedi gallu fforddio i fynd fel arall, a nawr fi wedi llwyddo.
“Dyw e ddim mor clear cut dweud fod actorion dosbarth gweithiol yn rhywbeth o’r gorffennol, dyw’r gwahaniaeth rhwng y dosbarth canol a’r dosbarth gweithiol ddim beth oedd e.
“Ond fi’n rhywun sydd o gartref o incwm gymharol isel sydd wedi torri drwyddo ac yn gweithio – mae’n dibynnu pa faes o’r celfyddydau chi ynddo.
“Fi ddim yn amau fod e’n anoddach i rai pobl, ond fi ddim yn meddwl fod e mor amlwg ac y mae e’n cael ei bortreadu.”
James Bond y dyfodol?
Yn y ffilm Kingsman mae Taron Egerton yn chwarae rhan bachgen ifanc, Eggsy, sydd yn cael ei recriwtio a’i hyfforddi i fod yn ysbïwr er mwyn ceisio achub y byd.
Felly oes gan yr actor o Aber ei lygad ar chwarae rhan ysbïwr hyd yn oed yn fwy adnabyddus yn y dyfodol – James Bond?
“Wrth gwrs bod pawb yn breuddwydio am fod yn spy neu superhero, ond falle ar ôl Kingsman fi’n teimlo mod i wedi gwneud rhywbeth digon tebyg – a bydden i ddim yn meddwl awgrymu am un eiliad mod i’n Bond material!” meddai Taron Egerton.
“Ar ôl chwarae un spy bydden i siŵr o fod eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, ond pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.”
Mae’r cyfweliad llawn gyda Taron Egerton yn trafod ei ran yn Kingsman, rhannu set â’r sêr, a’i fywyd nôl yng Nghymru, yn Golwg yr wythnos hon.