Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllïan sydd yn disgrifio’r ymateb yng ngwahanol rannau o Ffrainc i’r ymosodiadau brawychol …
Fe fynychodd mwy na thair miliwn o bobl y ralïau a gafodd eu cynnal drwy gydol Ffrainc fel ymateb i’r ymosodiad ar swyddfa Charlie Hebdo ar 7 Ionawr.
Ym Mharis, roedd 1.5 miliwn o bobl yn y strydoedd yn cerdded er cof am y bobl a gafodd eu lladd yng nghanol Paris gan frawychwyr.
Mae’r hashnod #JeSuisCharlie bellach wedi mynd yn fyd-eang, fel ymateb i’r ymosodiad ar ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf ar swyddfa’r papur newydd dychanol, Charlie Hebdo, gan ddau frawychwr.
Fe laddwyd 12 o bobl, gan gynnwys rhai o gartwnwyr mwyaf enwog y papur a dau aelod o’r heddlu.
Cofio yn y dosbarth
Fel myfyriwr gwleidyddiaeth ym Mordeaux, y chweched ddinas fwyaf yn Ffrainc, fe welais yr ymateb i’r digwyddiad yn syth.
Fe gynhaliwyd munud o ddistawrwydd yn y brifysgol ac o fewn oriau roedd posteri “Je suis Charlie” yn ffenestri siopau ar hyd y stryd fawr.
Yn lle gwers Ffrangeg fe gawsom ni gyflwyniad ar Charlie Hebdo, ei hanes, ei bwrpas ac wrth gwrs, yr ymateb i beth ddigwyddodd.
Gan fod Ffrainc wedi cynyddu ei lefel rhybudd o derfysgaeth, fe lenwodd y strydoedd gyda heddlu a gendarmerie yn cario gynnau.
Ralïau ar draws y wlad
Dros y penwythnos, fe ddaeth Ffrainc at ei gilydd i uno yn erbyn terfysgaeth ac i uno i gefnogi rhyddid barn a rhyddid mynegiant.
Ym Mordeaux, fe gerddodd 140,000 gyda’i gilydd fel symbol o barch. Roedd y strydoedd yn llawn pobl, o bob oedran, yn cario posteri, yn cerdded gyda’i gilydd am yr un achos.
Fe fynychodd un o’m ffrindiau Ffrengig y rali yn Tours, dinas dwy awr o Baris. Iddi hi, roedd y rali yn symbol o barch.
Fe gerddodd y dorf mewn tawelwch, ond tawelwch llonydd, parchus. Pob 50 medr fe ddechreuodd y dorf guro eu dwylo am gwpwl o funudau cyn parhau i gerdded tua’r Hôtel de Ville.
Ar ddiwedd y rali, tu allan i’r Hôtel de Ville, fe wrandawodd pawb ar araith fer. Fe gafodd enwau ac oedran y newyddiadurwyr eu darllen, ac ar ôl pob enw, fe ddechreuodd y dorf guro dwylo.
Fe ddaeth y rali i ben ar ôl munud o ddistawrwydd ac fe ddechreuodd pawb ganu’r anthem genedlaethol, y Marseillaise.
Mewn ymateb, fe gafodd Assemblée Nationale Ffrainc hefyd funud o dawelwch cyn canu’r Marseillaise ac fe addawodd Arlywydd Ffrainc, François Hollande, i uno’r wlad.
Fe ymunodd gwleidyddion ac arweinyddion nifer o wledydd Ewropeaidd y daith gerdded ym Mharis dros y penwythnos, i addo ymladd yn erbyn terfysgaeth ac i gadw rhyddid barn yn fyw.
Mae Bethan Gwenllïan yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Sciences-Po Bordeaux yn Ffrainc.