Mae tri pherson wedi cael eu hanafu’r bore yma mewn damwain ffordd rhwng dau gar ger Bangor-is-y-Coed, Wrecsam.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i’r digwyddiad ar yr A525 tua 7 y bore yma.

Roedd un o’r ddau gar, sef fan Ford Transit wen a Seat Ibzia, wedi troi drosodd a pherson yn gaeth y tu mewn i’r car, yn ôl yr heddlu. Cafodd dau berson eu cludo i Ysbyty Maelor gerllaw gydag anafiadau sydd ddim yn ddifrifol.

Fe gafodd y ffordd ei chau ond mae hi bellach wedi ail-agor.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod S006190.
.