Carl Sargeant
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu addewid y Gweinidog Cynllunio i Bwyllgor Amgylchedd y Llywodraeth ei fod yn mynd i gyflwyno gwelliannau ynghylch y Gymraeg yn y Mesur Cynllunio.

Dywedodd Carl Sargeant wrth Aelodau Cynulliad heddiw ei fod yn “edrych i gyflwyno gwelliannau [i’r Mesur] ”.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’n dda clywed ymrwymiad y Gweinidog i wella’r Bil i gynnwys y Gymraeg mewn ffordd sy’n cadarnhau bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac i bob rhan o Gymru.

“Byddwn ni’n cwrdd â swyddogion y Llywodraeth i drafod y materion hyn ymhellach dros  yr wythnosau nesaf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod llunio system newydd sy’n adlewyrchu anghenion unigryw Cymru.”

Newydd wedd

Ychwanegodd Tamsin Davies bod y bil presennol yn dynwared system sy’n bodoli yn Lloegr.
“Trefn gynllunio newydd er mwyn cryfhau’r Gymraeg sydd ei hangen wrth gwrs, ond dylai hefyd fynd i’r afael â gwella’r amgylchedd a thaclo lefelau tlodi.”
Daw sylwadau’r Gweinidog wedi i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gychwyn camau cyfreithiol i herio’r ddeddfwriaeth – ar y sail bod y Llywodraeth wedi anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar y Bil.

Y llynedd, ysgrifennodd saith arweinydd cyngor at y Llywodraeth i gwyno am y diffyg sôn am yr iaith.

Penodi gwas sifil newydd

Yn y cyfamser, mae penodiad gwas sifil newydd i swydd ddylanwadol o fewn Llywodraeth Cymru wedi arwain at obaith y bydd y Gymraeg yn cael lle mwy amlwg yn y Bil Cynllunio.

Gellir darllen rhagor am y stori yma yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.