Y lori graeanu ar ei hochr
Cwympodd lori graeanu ar ei hochr yn Sir Gâr neithiwr wrth i weithwyr geisio clirio’r ffyrdd yn ystod y tywydd garw.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 8yh nos Fawrth ar ffordd y B4299 rhwng Trelech a Bryn Iwan, wrth i’r tywydd ei gwneud hi’n anodd iawn i yrru.

Mae’r ffordd dal ar gau ond mae disgwyl iddi ailagor eto erbyn amser cinio heddiw.

Disgynnodd rhagor o eira dros rannau o Gymru neithiwr gan achosi mwy o drafferth i deithwyr, gyda rhai ysgolion yn dal ar gau heddiw.

Dim anafiadau

Ni chafodd yr un o’r ddau weithiwr oedd yn y lori graeanu eu hanafu yn y ddamwain.

“Hoffwn ddiolch i’n criwiau ni am eu gwaith,” meddai’r Cynghorydd Colin Evans o Gyngor Sir Gâr.

“Maen nhw allan mewn tywydd garw bob awr o’r dydd ac yn gwneud gwaith gwych o sicrhau bod pethau’n dal i symud yn y sir.

“Ni fydd y digwyddiad yma yn effeithio ar ein graeanu ni yn y dyfodol gan fod gennym ni gerbydau wrth gefn.”

Bydd y lorïau graeanu yn parhau i ganolbwyntio ar brif ffyrdd y sir, ond mae disgwyl i’r tywydd wella yn ystod y dydd wrth i’r eira a’r rhew doddi.

Fodd bynnag mae disgwyl rhagor o wynt a glaw dros nos allai olygu llifogydd mewn rhai mannau.