Ysbyty Coffa Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog
Fe fydd Cyngor Tref Ffestiniog yn galw ar Gyngor Gwynedd i gynnal pleidlais gymunedol ar gael gwelyau ac uned mân-anafiadau yn Ysbyty Coffa Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog.

Fe ddaeth tua mil o bobol i gyfarfod yn y dref neithiwr i gefnogi cynnal y bleidlais gymunedol o fewn yr wythnosau nesaf – a phob un wedi pleidleisio o blaid y syniad, yn ôl Clerc y Cyngor Tref.

Cafodd Ysbyty Coffa Ffestiniog ei chau ddwy flynedd yn ôl o ganlyniad i ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd yn y cylch ac ers hynny mae trigolion wedi gorfod teithio i Dremadog, sydd tua 13 milltir i ffwrdd, i gael gofal.

Cafodd y cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol y Moelwyn nithiwr ei drefnu ar gais y cynghorydd lleol Anwen Daniels a ddywedodd wrth golwg360:

“Roeddwn i’n falch ofnadwy o weld cymaint o bobol wedi dod i’r cyfarfod. Mae’r teimladau yn gryf iawn ym Mlaenau i gael yr ysbyty yn nol, ac mae gwir ei angen.

“Hefo’r tywydd ydan ni’n ei gael ar hyn o bryd, neu pan mae trafferthion ar y ffyrdd a hefo’r bysus, mae hi’n anodd mynd lawr i Ysbyty Allt Wen yn Nhremadog.”

Canolfan iechyd newydd

Ychwanegodd y Cynghorydd Ronwen Roberts, sy’n cynrychioli Cyngor Tref Ffestiniog ar Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty: “Roedd yr ysbyty Coffa yn wasanaeth yr oedd pawb yn ei werthfawrogi’n fawr.

“Tra bod Cyngor Tref Ffestiniog yn cefnogi’r buddsoddiad £4 miliwn sy’n cael ei argymell i greu canolfan iechyd ar safle’r ysbyty, mae yna gefnogaeth lethol dros gynnwys gwlâu i gleifion, gwasanaeth pelydr-x ac uned mân-anafiadau yn y cynlluniau hyn.

Fe fydd y Cyngor Tref rŵan yn cysylltu hefo Cyngor Gwynedd er mwyn trefnu pleidlais gymunedol o fewn y 25 diwrnod nesaf.