Awyren AirAsia
Mae corff awyren AirAsia wedi cael ei ddarganfod ym môr Java, yn ôl gweinidog amddiffyn Singapore.

Cafodd y gweddillion eu darganfod trwy luniau a gafodd eu tynnu gan gerbyd tanfor.

Mae’r lluniau’n dangos geiriau ar gorff ac adenydd yr awyren, yn ôl Ng Eng Hen.

Mae swyddogion chwilio Indonesia wedi cael gwybod am y darganfyddiad fel y gallan nhw ddechrau tynnu’r awyren o’r dŵr.

Diflannodd yr awyren yn ystod taith o Surabaya yn Indonesia i Singapore ar Ragfyr 28.

Roedd 162 o deithwyr ar yr awyren ar y pryd, ond 48 o gyrff yn unig sydd wedi cael eu darganfod hyd yn hyn.

Mae lle i gredu bod y rhan fwyaf o’r cyrff yn sownd yng nghorff yr awyren.