Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi y gall miloedd o frechlynnau arbrofol gael eu dosbarthu i bobol sy’n dioddef o Ebola erbyn mis Rhagfyr.

Os yw’r profion rhagarweiniol ar gyfer y brechlynnau yn llwyddiannus, fe fydd mwy yn cael eu dosbarthu yn 2015 a phrofion eraill yn cychwyn ym mis Mawrth.

Ond mae’r sefydliad yn rhybuddio nad yw hi’n glir os yw’r brechlynnau am leddfu’r haint marwol:

“Ni fydd y brechlynnau yn ateb y cyfan. Ond pan fydden nhw’n barod, mi fydd yn hwb mawr i’r ymdrech i geisio gwyrdroi’r epidemig hwn,” meddai Dr Marie-Paule Kieny.

Mae tua 4,800 o bobol wedi marw o Ebola, y rhan fwyaf yng ngorllewin Affrica.