Rhybuddiodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol y byddai trefi glan môr mewn trafferthion petae biwrocratiaid cynghorau yn llwyddo i roi’r fwyell i deithiau plant ar gefn mulod.

Roedd Brandon Lewis yn mynnu y dylid caniatáu i blant heddiw a’r dyfodol barhau i fwynhau mynd am reid ar gefn mul, er bod hynny wedi ei wahardd mewn digwyddiad yn Sheffield oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Torïaidd dros etholaeth glan y môr Great Yarmouth nad oes dim byd yn y Ddeddf Iechyd a Diogelwch sy’n gofyn i blentyn wysgo helmed wrth deithio ar ful.

Wrth restru straeon am iechyd a diogelwch, dywedodd Brandon Lewis: “Ac yna mae ganddoch chi gyngor yn gwahardd plant rhag mynd ar gefn mulod mewn ffair bentref oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.

“Rhaid i mi ddweud, os ydyn ni’n gwahardd mynd am dro ar gefn mul, mae’r rhan fwyaf o’n trefi glan môr yn wynebu trafferthion dybryd.”