Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn gobeithio penodi meddygon teulu newydd ym Mlaenau Ffestiniog yn fuan.
Yn ddiweddar daeth y feddygfa yn y dref o dan fygythiad ar ôl i ddau feddyg roi’r gorau iddi oherwydd pwysau gwaith.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd fe fyddan nhw’n ystyried ceisiadau ar ddechrau mis Tachwedd, gydag un wedi cynnig cais hyd yn hyn.
Maen nhw hefyd yn bwriadu aildrefnu’r ffordd mae’r feddygfa’n cael ei rhedeg er mwyn lleihau’r baich ar staff meddygol.
“Mae’r swydd wag ym mhractis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd, a bydd unrhyw ddarpar ymgeisydd yn cael ei roi ar y rhestr fer yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd.
“Os bydd y Bwrdd Iechyd yn llwyddiannus wrth benodi meddygon teulu newydd i gymryd y contract yna byddent yn rhedeg y Feddygfa.”
Rheoli’r feddygfa
Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y byddai hynny’n golygu eu bod nhw’n cymryd cyfrifoldeb dros reoli’r feddygfa, yn hytrach na bod y meddygon teulu’n gorfod gwneud hynny.
“Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn archwilio sut y bydd yn gallu rheoli’r practis yn uniongyrchol yn y tymor hir,” meddai’r llefarydd.
“Byddai hyn yn cynnwys model gwasanaeth gwahanol ac o bosibl yn gofyn am ddefnyddio mwy o staff clinigol gwahanol, yn gweithio ochr yn ochr â’r meddygon teulu yn y practis.
“Mae un meddyg teulu eisoes wedi dangos diddordeb, ac mae gan y meddyg hwn diddordeb mewn cael ei gyflogi gan y Bwrdd Iechyd i weithio ym Mlaenau Ffestiniog yn y math hwn o drefniant.”
Dywedodd cadeirydd cyngor tref Blaenau Ffestiniog Rory Francis eu bod wedi trefnu cyfarfod â’r Bwrdd Iechyd mewn pythefnos er mwyn cael diweddariad o’r sefyllfa.
“Yr hyn ‘da ni’n ei obeithio yw y byddan nhw’n recriwtio meddygon fydd yn byw ac yn gweithio yn lleol am gyfnod go dda,” meddai Rory Francis.
“Rydan ni’n credu bod angen cael meddygon llawn amser i weithio yn y cylch. Mae ‘na gyfrifoldeb ar y Bwrdd Iechyd i sicrhau fod gwasanaeth teilwng yn cael ei gynnig.”