Mae'r Arlywydd Barack Obama wedi talu teyrnged i Ben Bradlee
Mae cyn-olygydd y Washington Post, Ben Bradlee, oedd yn gyfrifol am arwain ymchwil i sgandal Watergate, wedi marw yn 93 oed.

Enillodd y papur newydd wobr Pulitzer am y gwaith a gafodd ei wneud o dan arweiniad Bradlee i ddatgelu pwy oedd yn gyfrifol am ddatgelu manylion am y ffrae a arweiniodd at ymddiswyddiad yr Arlywydd Richard Nixon yn 1974.

Roedd Bradlee, yn y dyddiau cynnar, yn gyfrifol am droi’r papur newydd lleol yn bapur newydd cenedlaethol o bwys.

Y llynedd, derbyniodd Bradlee Fedal Rhyddid yr Arlywydd gan Barack Obama i gydnabod ei waith.

‘Gohebu o’r radd flaenaf’

Dechreuodd ei yrfa gyda’r Washington Post yn 1948 lle wnaeth e ohebu ar ymosodiad ar adeilad lle’r oedd yr Arlywydd ar y pryd, Harry Truman yn aros.

Ond gadawodd y Washington Post yn 1951 i fynd i weithio i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym Mharis.

Treuliodd bedair blynedd fel newyddiadurwr yn Ffrainc cyn dychwelyd i Washington fel newyddiadurwr gwleidyddol.

Manteisiodd ar ei gyfeillgarwch gyda John F Kennedy i gael mewnwelediad i’r byd gwleidyddol.

Mewn teyrnged, dywedodd Barack Obama fod Bradlee wedi gosod safonau o onestrwydd, gwrthrychedd a gohebu o’r radd flaenaf.