John Cantlie mewn fideo gan IS
Mae tad y newyddiadurwr John Cantlie, a gafodd ei gipio gan eithafwyr Islamaidd ddwy flynedd yn ôl wedi marw.
Gwnaeth Paul Cantlie, oedd yn 80 oed, apêl o’i wely angau’n gynharach y mis hwn ar i’r eithafwyr ryddhau ei fab.
Dywedodd y teulu y bu farw’r tad heb wybod os oedd ei fab wedi derbyn unrhyw un o’r negeseuon yr oedd wedi’u hanfon at y grŵp eithafol IS.
Mae’r teulu wedi bod yn ceisio cysylltu â John Cantlie i roi gwybod iddo am farwolaeth ei dad ddydd Iau diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu ei fod yn feirniadol o ryfel Irac yn 2003 ac o Tony Blair am benderfynu mynd i ryfel.
Dywedodd y teulu y byddan nhw’n cofio Paul Cantlie am ei “nerth, ei ddewrder tawel, ei hiwmor a’i allu meddyliol, yn ogystal ag am fod yn addfwyn.”