Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “ymosod fel bwli” ar record iechyd Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd San Steffan Jeremy Hunt, mae gan Gymru wasanaeth iechyd “eilradd”.

Gwnaeth Hunt ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi ystadegau sy’n dangos bod mwy na 31,000 o bobol o Gymru wedi teithio i Loegr am driniaeth yn ystod y flwyddyn – dim ond 8,000 oedd wedi teithio o Loegr i Gymru.

Dywedodd Jeremy Hunt fod “pwysau hollol annioddefol” ar ysbytai ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr o ganlyniad i’r sefyllfa.

Ym mhapur newydd y Guardian, dywedodd Mark Drakeford: “Fe wnawn ni ddatrys y sefyllfa gam wrth gam.

“Ni ddylai unrhyw un fynd i ffwrdd yn meddwl ein bod ni’n ryw fath o ‘ergyd rydd’. Mae hyn wedi digwydd ers misoedd. Mae’n hollol wleidyddol.

“Mae’r awgrym nad oes croeso i gleifion o Gymru yn ysbytai Lloegr yn sarhaus.”

Cyhoeddodd y papur newydd ddarn o lythyr Mark Drakeford at Jeremy Hunt, oedd yn dweud
nad yw’r GIG yng Nghymru yn fodlon “i’w enw da gael ei llusgo trwy’r baw at ddibenion hollol ragfarnllyd a gwleidyddol”.

Pêl-droed gwleidyddol

Yn y Senedd ddoe, bu’n rhaid i’r Prif Weinidog amddiffyn y GIG yn dilyn galwadau cyson gan y Ceidwadwyr i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i gyflwr y gwasanaeth iechyd, yn ogystal ag erthygl feirniadol yn y Daily Mail dros y Sul a oedd yn adrodd am “esgeulustod dybryd” yn rhai o ysbytai Cymru.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, bu Carwyn Jones yn wynebu rhagor o feirniadaeth gan Aelodau Cynulliad bod “pryderon diffuant” am y gofal sy’n cael ei roi i gleifion yng Nghymru.

Ei ymateb oedd: “Nid ydw i’n dweud bod y GIG yng Nghymru yn berffaith mewn unrhyw ffordd – ond nid ydyw yn Lloegr chwaith.

“Rydym ni fel Llywodraeth yn benderfynol o ddatrys y problemau.

“Ond un peth nad ydan ni’n ei wneud yw chwarae pêl-droed gwleidyddol gydag iechyd pobol.”