Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobol o dramor wnaeth ymweld â Chymru rhwng Ionawr a Mehefin 2014 yn ôl ffigurau Arolwg Teithwyr Rhyngwladol.
Fe wnaeth Cymru weld cynnydd o 21% yn nifer yr ymwelwyr (415,000) ac 1% yn y gwariant (£149 miliwn) yn hanner cyntaf 2014, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2013.
Ar ôl degawd o ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, roedd cynnydd yn nifer y bobol fu’n ymweld â Chymru o bob rhanbarth o’r byd – 6% o Ogledd America, 31% yn nifer y bobol o’r Undeb Ewropeaidd a 3% ar gyfer gweddill y byd.
‘Angen gwneud mwy’
Ond mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi rhybuddio nad oes gan Gymru broffil uchel iawn dramor o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU a bod angen gwneud llawer mwy i ddenu rhagor o ymwelwyr.
Maen nhw’n galw am ddatblygu strategaeth ar y cyd rhwng VisitBritain a Croeso Cymru erbyn mis Chwefror 2015 i ddenu mwy o ymwelwyr i Gymru.
Dywed y pwyllgor fod denu masnach i wlad fach fel Cymru “gan dwristiaid o dramor a buddsoddwyr yn hanfodol”.
Mae’r pwyllgor hefyd o’r farn nad yw potensial Cymru fel cyrchfan yn cael ei werthu’n ddigonol a bod ei phroffil dramor yn gymharol isel yng nghyd-destun y DU.
Dywed y pwyllgor fod gan Gymru “ddiffyg brand clir ar gyfer y farchnad dramor” ac y dylid “ei marchnata’n llawer mwy trylwyr”.
Wrth dynnu sylw at wendidau Cymru, galwodd y pwyllgor am sefydlu asiantaeth i hyrwyddo masnach, a hynny naill o dan reolaeth Llywodraeth Cymru neu fel corff annibynnol sy’n cydweithio â Llywodraeth Cymru.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr Aelod Seneddol Ceidwadol David Davis: “Tra bod y nifer bresennol o dwristiaid rhyngwladol i Gymru’n aros yn is na lefelau cyn 2006, rydym yn credu bod potensial sylweddol ar gyfer twf ym marchnad dwristiaeth Cymru.
“Mae gan Gymru rai o’r dirwedd fwyaf syfrdanol ym Mhrydain ac Ewrop, diwylliant, iaith a hanes unigryw, dinasoedd dynamig, ac mae’n cynnig ystod o weithgareddau ac ansawdd bywyd uchel.
“Mae angen i’r cyrff sy’n gyfrifol am hyrwyddo Cymru fachu ar y cyfle hwn i wneud y mwyaf o botensial Cymru fel cyrchfan.”
‘Ymgyrchoedd tactegol’
Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Nid yn unig mae Cymru yn gwneud yn well na gweddill y Deyrnas Unedig o ran denu ymwelwyr dydd a thros nos, rydym hefyd ar flaen y gad o ran denu ymwelwyr o dramor hefyd wrth i’r marchnadoedd ddod at ei hunain yn dilyn y dirwasgiad economaidd.
“Mae cyfres o ymgyrchoedd tactegol wedi cael eu cynnal er mwyn ehangu’r marchnadoedd rhyngwladol gan gynnwys gweithgareddau i fanteisio ar y ffaith bod llwybrau newydd yn dod i Faes Awyr Caerdydd.”
‘Blwyddyn wych’
Ychwanegodd Prif Weithredwr VisitBritain, Sally Balcombe, fod 2014 yn edrych fel “blwyddyn wych i Gymru”:
“Yr arwyddion cynnar yw y gallai 2014 fod yn flwyddyn wych ar gyfer twristiaeth ryngwladol i Gymru ac rwyf wrth fy modd ein bod yn dechrau gweld canlyniadau’r gwaith ardderchog sydd wedi cael ei wneud gan Croeso Cymru a VisitBritain yn ddiweddar.”