Siop Nigel Roberts yn Llandudno
Mae ffenestri siop bapur newydd y dyn busnes wnaeth gyfaddef mai fo oedd awdur y blog Thoughts of Oscar wedi cael eu torri mewn digwyddiad y prynhawn ma.
Cafodd o leiaf pedair ffenest yn siop Nigel Roberts ar Ffordd Gloddaeth yn Llandudno eu torri yn y digwyddiad ychydig cyn un o’r gloch prynhawn dydd Mawrth.
Yn ol adroddiadau cafodd dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad. Dywedodd llygad dystion fod y dyn wedi defnyddio bar haearn i dorri’r ffenestri.
Y mis diwethaf, fe wnaeth Nigel Roberts gyfaddef mai ef oedd awdur y blog Thoughts of Oscar – a oedd, yn ol yr AS Guto Bebb, yn “ymosod, sarhau a thargedu” unigolion.