Mae’r NFU a’r gwrthbleidiau wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â newid y system digolledu ffermwyr sy’n colli gwartheg yn sgil TB.
Yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans yn y Senedd heddiw ei bod wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus ac o ganlyniad ni fydd system brisio dablaidd am asesu taliadau iawndal yn cael ei gyflwyno yng Nghymru.
Ond mae Rebecca Evans wedi cyhoeddi mai £15,000 fydd yr uchafswm a fydd yn cael ei dalu ar gyfer anifail unigol.
Cap iawndal
Wrth ymateb i’r tro pedol, gofynnodd Llŷr Gruffydd, llefarydd amaeth Plaid Cymru pam fod cap wedi ei osod ar werth y gwartheg pan mae’r Llywodraeth yn gwybod fod rhai anifeiliaid yn werth mwy na £15,000:
“Rwy’n falch fod y Dirprwy Weinidog wedi gweld synnwyr ar y mater hwn yn dilyn pwysau cyson gan Blaid Cymru.
“Mae’n amlwg y buasai cyflwyno system brisio dablaidd am daliadau iawndal am y diciâu wedi arwain at system o dalu llai na’r hyn fyddai’n ddyledus am wartheg o werth uchel, a gordalu am wartheg o ansawdd gwael.
“Buasai cyflwyno system mor annheg, yn enwedig ar adeg pan fo ffermwyr yn wynebu pwysau cyllidol ac economaidd mor drwm, wedi bod yn niweidiol iawn i’r diwydiant amaethyddol.
“Ond pam fod y Llywodraeth wedi gosod cap ar iawndal pan maen nhw’n gwybod yn iawn fod rhai anifeiliaid yn werth mwy na £15,000?”
Dywedodd William Powell AC, llefarydd amaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ei fod hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dadlau’n gyson yn erbyn y cynlluniau yma a fyddai wedi golygu bod ffermwyr ar eu colled o £4 miliwn y flwyddyn.
“Er nad yw’r system bresennol yn berffaith, fe fyddai system dablaidd wedi gwneud y sefyllfa’n waeth i ffermwyr Cymru sy’n parhau i wynebu bygythiadau yn sgil TB mewn gwartheg.”