Gareth Wyn Jones Llun: Y Lolfa
Fe fydd y ffarmwr Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan yn cyhoeddi cyfrol newydd o’r enw The Hill Farmer yr wythnos hon.

Yn dilyn llwyddiant ei hunangofiant, Mab y Mynydd, bydd gwasg Y Lolfa yn cyhoeddi’r llyfr yn Neuadd y Dref, Llanfairfechan nos Sadwrn.

Mae Gareth Wyn Jones wedi dod yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt, wedi i ffilm ohono’n tynnu defaid a merlod mynydd o’r lluwchfeydd eira yn 2013 gael ei wylio dros 600,000 o weithiau ar YouTube.

Rhoddodd hyn gyfle i Gareth Wyn Jones ofyn am degwch i’r ffermwyr a gollodd gymaint o’u hanifeiliaid yn y stormydd. Pwysodd ar wleidyddion a gweision sifil i newid rheolau’r Undeb Ewropeaidd ynghylch claddu anifeiliaid ar dir ffermydd, dros dro.

Barn

Bu hefyd yn ffilmio The Hill Farmer, rhaglen ddogfen ar gyfer y BBC sydd wedi cael ei enwebu am Bafta, Mountain gyda Griff Rhys Jones, Snowdonia 1890, a School of Hard Knocks gan ddod yn enwog fel rhywun sy’n barod iawn i fynegi barn:

“Yn y diwydiant ffermio yng Nghymru, rydym ni’n eithriadol o dda am gynhyrchu cynnyrch o safon ond yn da i ddim am ei werthu,” meddai Gareth Wyn Jones yn ei hunangofiant, The Hill Farmer.

“Mae’n debyg mai’r ffermwyr eu hunain sy’n rhannol gyfrifol am hynny gan nad ydym wedi mynd ati i chwalu’r ystrydeb o’r ffarmwr ar ben mynydd yn gafael mewn ffon ac yn gweiddi ‘Get off my land!’

“Gwêl eraill ni fel rhai sy’n byw ar ofyn eraill gan erfyn am gynhaliaeth gan Ewrop gan lyncu grantiau cyn gyflymed ag y gallwn. Mae hyn yn ddarlun cwbl anghywir. Mae’r ffermwyr dwi’n eu hadnabod yn weithwyr caled tu hwnt sy’n cynhyrchu cynnyrch o’r safon uchaf.”

Bydd lansiad The Hill Farmer yn cael ei gynnal am 7.30 o’r gloch nos Sadwrn 25 Hydref yn Neuadd y Dref, Llanfairfechan.