Profi samplau gwaed am Ebola
Mae ail brawf wedi dangos nad yw nyrs o Sbaen, a gafodd ei heintio gydag Ebola, bellach yn dioddef o’r firws, meddai meddygon.
Roedd Teresa Romero, 44 oed, wedi bod yn cael triniaeth am yr haint yn ysbyty Carlos III yn Madrid ar ôl cael prawf positif am Ebola ar 6 Hydref.
Dywedodd meddygon ei bod wedi dechrau dangos arwyddion ei bod yn gwella wythnos ddiwethaf, a chafodd brawf negatif am yr haint ddydd Sul.
Roedd Teresa Romero wedi derbyn plasma gan glaf oedd wedi gwella o Ebola ond nid yw’r awdurdodau iechyd yn fodlon datgelu rhagor o fanylion.
Hi oedd y person cyntaf i gael ei heintio gydag Ebola y tu alla i orllewin Affrica. Roedd hi wedi bod yn gofalu am offeiriad yn yr ysbyty ym Madrid a gafodd ei heintio tra’n gweithio yn Affrica.
Mae disgwyl iddi barhau yn yr ysbyty am bythefnos arall.