Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi ymateb yn chwyrn i feirniadaeth am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn sgil adroddiadau mewn papur newydd dros y Sul a chyhuddiadau bod cleifion yn cael “gwasanaeth eilradd.”

Bu’n rhaid i’r Prif Weinidog amddiffyn y GIG yn dilyn galwadau cyson gan y Ceidwadwyr i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i sefyllfa’r gwasanaeth iechyd, yn ogystal ag erthygl feirniadol yn y Daily Mail dros y Sul a oedd yn adrodd am “esgeulustod dybryd” yn rhai o ysbytai Cymru.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd y prynhawn ’ma, bu Carwyn Jones yn wynebu rhagor o feirniadaeth gan Aelodau Cynulliad bod “pryderon diffuant” am y gofal sy’n cael ei roi i gleifion yng Nghymru.

Ei ymateb oedd: “Nid ydw i’n dweud bod y GIG yng Nghymru yn berffaith mewn unrhyw ffordd – ond nid ydyw yn Lloegr chwaith.

“Rydym ni fel Llywodraeth yn benderfynol o ddatrys y problemau.

“Ond un peth nad ydan ni’n ei wneud yw chwarae pêl-droed gwleidyddol gydag iechyd pobol.”

‘Gwasanaeth eilradd’

Heddiw, roedd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi datgelu bod 31,626 o gleifion yng Nghymru wedi teithio i Loegr am driniaeth gyda’r Gwasanaeth Iechyd y llynedd a dim ond 8,037 o gleifion o Loegr wnaeth y daith i Gymru.

“Mae cymaint o ddangosyddion yn dangos bod cleifion o Gymru’n cael bargen waeth ac yn cael eu gorfodi i geisio triniaeth mewn man arall,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Cafodd y mater hefyd ei godi yn Nhŷ’r Cyffredin gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, wedi cwyn gan yr AS Ceidwadol, Stephen Mosley bod “straen” yn cael ei roi ar wasanaethau iechyd yn ei etholaeth yng Nghaer oherwydd bod cleifion yn mynd yno o Gymru.

Wrth ymateb dywedodd Jeremy Hunt bod Cymru’n cynnig “gwasanaeth eilradd” i gleifion.

“Rydw i wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yng Nghymru i ddweud bod y GIG yn hapus i drin mwy o gleifion o Gymru ond, y drafferth yw, dydyn nhw ddim yn fodlon talu am y gwasanaeth, a dyna pam mae cleifion yng Nghymru yn cael gwasanaeth iechyd eilradd.”

Rhybudd Mark Drakeford

Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt yn ei rybuddio i roi’r gorau i’w ymdrechion i danseilio’r GIG yng Nghymru:

“Ni fydd y GIG yng Nghymru yn rhan o gynllwyn gan y Ceidwadwyr i bardduo ei enw da.

“Mewn cyfnod pan ddylai pedair gwlad y DU fod yn cyd-weithio er mwyn ymateb i fygythiad Ebola, mae eich awydd i roi eich plaid uwchlaw anghenion y cyhoedd yn gyfrwys iawn.”