Mae ymchwiliad ar y gweill i wyth o swyddogion Heddlu De Cymru fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth dynes yn dilyn adroddiadau o drais yn y cartref.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC), wedi cyhoeddi rhybudd o gamymddwyn i chwech o gwnstabliaid mewn perthynas â’u gweithredoedd ar ddiwrnod marwolaeth Lisa Moller.

Mae dau ringyll hefyd yn rhan o’r ymchwiliad am y ffordd yr oedden nhw’n goruchwylio swyddogion.

Cafodd corff Lisa Moller, 35, ei ddarganfod yn ei chartref yn Y Bari am 10:50 y bore ar 31 Awst eleni.

Y noson flaenorol, roedd yr heddlu wedi cael eu galw i’r tŷ ddwywaith gan gymdogion yn adrodd am drais yn y cartref.

Fe wnaeth yr heddlu alw heibio’r tŷ am y trydydd tro am 9:30 y bore, ond fe wnaethon nhw fethu a siarad gyda Lisa Moller ar bob achlysur.

Dywedodd Comisiynydd yr IPCC dros Gymru, Jan Williams: “Rydym wedi rhoi gwybod i deulu Ms Moller am y datblygiadau yn yr achos ac yn parhau i fynegi pob cydymdeimlad iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Dechreuodd ymchwiliad yr IPCC ar ôl i Heddlu De Cymru gyfeirio’r mater ym mis Medi.
Dywedodd yr IPCC bod cyflwyno rhybudd camymddwyn i swyddog yn golygu bod eu hymddygiad yn destun ymchwiliad, ond nid yw’n feirniadol ohonyn nhw mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd.

Nid yw’r IPCC yn ymchwilio i farwolaeth Lisa Moller, ond mae Heddlu De Cymru yn parhau i wneud hynny.