Mae dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan goeden yn Llundain wrth i weddillion Corwynt Gonzalo dod a gwyntoedd ffyrnig yn ei sgil i’r DU.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle yn Kensington, gorllewin Llundain, meddai Gwasanaeth Ambiwlans Llundain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11:40 bore heddiw. Mae diffoddwyr tân yn parhau i fod ar y safle i geisio symud y goeden.

Mae’r tywydd stormus hefyd wedi achosi i dair o fenywod gael eu hanafu pan syrthiodd coeden arall yng ngorllewin Sussex ychydig cyn 10 bore heddiw.

Credir bod y tair mewn cadeiriau olwyn a chawsant eu cludo i’r ysbyty.