Cafodd y claf cyntaf yn yr Unol Daleithiau i gael ei heintio ag Ebola ei adael mewn ystafell agored o ysbyty yn Dallas, am oriau, yn ôl Undeb Genedlaethol y Nyrsys.
Dywed yr undeb fod y nyrsys oedd yn ei drin hefyd wedi gorfod gweithio am ddyddiau heb wisgoedd arbennig i’w diogelu.
Mewn cynhadledd i’r wasg bu Deborah Burger o’r undeb yn trafod pryderon y nyrsys sy’n gweithio yn yr ysbyty yn Texas, lle bu farw’r claf Thomas Duncan yr wythnos diwethaf.
Dywedodd bod y nyrsys yn honni fod samplau’r claf wedi teithio trwy bibellau niwmatig gyda phosibilrwydd o’u llygru.
Mae un o’r nyrsys fu’n trin Thomas Duncan yn Dallas wedi dal Ebola ac mae hi mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Rhybudd
Mae’r Arlwywyd Obama wedi rhybuddio nad yw’r byd yn gwneud digon i rwystro Ebola rhag lledu.
Daw hyn wrth i Gyfarwyddwr Sefydliad Iechyd y Byd, Bruce Aylward, ddweud y gall hyd at 10,000 o achosion newydd o Ebola bob wythnos. Dywedodd nad yw’r ymateb rhyngwladol i’r haint yn ddigonol ar hyn o bryd ac fe fydd “llawer mwy o bobol yn marw” os nad yw’r ymateb yn gwella.
Mae tua 4,500 o bobol yng ngorllewin Affrica eisoes wedi marw o’r haint a chynllun sgrinio wedi cychwyn ym maes Awyr Heathrow, Llundain ddoe.