Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gyhoeddi adolygiad heddiw ynglŷn â chyflwyno terfyn amser statudol y gallai’r heddlu gadw rhywun ar fechnïaeth.
Mae’n dilyn nifer o achosion amlwg lle’r oedd pobl wedi aros misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd cyn cael gwybod a fydden nhw’n cael eu cyhuddo.
Mae’r Heddlu Metropolitan yn bennaf wedi dod dan y lach yn ystod y misoedd diwethaf yn sgil Operation Yewtree – yr ymchwiliad gafodd ei sefydlu yn dilyn helynt Jimmy Savile – lle’r oedd Paul Gambaccini, Jim Davidson a Freddie Starr wedi aros misoedd cyn clywed a fyddan nhw’n cael eu cyhuddo.
Roedd cyfreithwyr cyflwynydd Radio 2, Paul Gambaccini wedi cyhuddo’r heddlu o’i adael yn aros heb unrhyw esboniad ar ôl iddo glywed wythnos diwethaf na fyddai’n wynebu unrhyw gamau pellach.