Mae undeb Unsain Cymru wedi ymateb yn chwyrn i gynigion sy’n cael eu cyflwyno gan Gyngor Merthyr Tudful i dorri cyflogau staff o 3% er mwyn arbed arian.

Mae’r cynigon hefyd yn cynnwys gostwng yr wythnos waith i 36 awr, a “gorfodi” 3.5 diwrnod o wyliau di-dâl i bob aelod o’r gweithlu, yn ol Unsain.

Bydd y cynlluniau yn cael eu trafod gan Gyngor Merthyr mewn cyfarfod arbennig prynhawn ma. Mae’r cyngor wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond ymgynghori hefo staff ynglŷn â diswyddiadau posib

Dywedodd Mike Colley, trefnydd rhanbarthol Unsain yn yr ardal, y byddai’r undeb yn brwydro pob cam o’r ffordd petai’r cyngor yn penderfynu cymeradwyo’r cynlluniau.

Ychwanegodd fod staff cynghorau wedi “dioddef digon”.

‘Caledi ariannol’

Meddai Mike Colley: “Mae gweithwyr llywodraeth leol eisoes wedi colli 20% o’u cyflog mewn termau real ers 2010, a nawr mae disgwyl iddyn nhw lenwi’r bwlch ariannol ymhellach trwy’r cynigion annheg hyn.

“Mae Cyngor Merthyr eisoes wedi colli 100 o swyddi yn y flwyddyn ddiwethaf, ond dyw’r galw am wasanaethau heb leihau, felly mae disgwyl i staff ddarparu mwy a byddai’r cynlluniau hyn yn golygu eu bod yn gwneud hynny am hyd yn oed llai o arian.

“Mae Unsain yn glir na fyddwn ni’n caniatáu i’n haelodau ddioddef mwy o galedi ariannol, yn enwedig gan ein bod wedi cyflwyno dewisiadau amgen clir a synhwyrol sydd heb gael eu hystyried yn ddigonol gan y cyngor.”

‘Dim dewis’

Mewn datganiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Brendan Toomey nad oes gan y cyngor ddewis arall ond ymgynghori hefo staff ynglŷn â diswyddiadau posib:

“Fel awdurdod lleol mae dyletswydd gyfreithiol arnom i gael cyllideb gytbwys ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a gyda’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru o doriad arall i’n cyllideb, does gennym ni ddim dewis ond mynd lawr y trywydd hwn.

“Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, fe fydd pob cyngor arall yng Nghymru yn cynnal trafodaethau gyda’u staff er mwyn penderfynu sut i fynd i’r afael a’r toriadau heriol yma.

“Yn anffodus, hyd yn oed ar ôl torri rhai gwasanaethau, nid yw hyn yn ddigon ac mae’n rhaid i ni dyllu’n ddyfnach er mwyn ceisio gwneud arbedion mewn adrannau eraill.

“Rydym yn cydnabod mai gwneud newidiadau i’r gweithlu yw’r dewis olaf, ond er mwyn cadw’n cyngor yn hyfyw, mae’n rhaid i ni ei ystyried.”

Mae disgwyl i aelodau Unsain a’r GMB gynnal protest yn ystod y cyfarfod prynhawn ma.