Abubakar Shekau, arweinydd Boko Haram
Mae 27 o wystlon, y credir iddyn nhw gael eu cipio gan Boko Haram, wedi cael eu rhyddhau yng Nghameroon.
Cafodd y gwystlon, sy’n cynnwys 10 o weithwyr adeiladu o China a gwraig y dirprwy brif weinidog, eu rhyddhau yn gynnar bore ma, yn ôl datganiad gan swyddfa’r Arlywydd Paul Biya.
Cafodd y gweithwyr o China eu cipio ym mis Mai tra roedden nhw’n gweithio yn Waza, yng ngogledd Cameroon.
Roedd Francoise Agnes Moukouri, gwraig y dirprwy brif weinidog Amadou Ali, ymhlith grŵp o 17 o bobl gafodd eu cipio mewn ymosodiad ar eu cartref yn nhref Kolofata ym mis Gorffennaf.
Nid yw Boko Haram wedi hawlio cyfrifoldeb am gipio’r gwystlon ond mae ’na bryderon bod y gwrthryfelwyr yn Nigeria yn ehangu eu hymgyrchoedd i Cameroon gan fod y llywodraeth yno wedi bod yn gysylltiedig ag ymdrechion i’w hatal.