Dywed Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi cwblhau’r gwaith o chwilio tir ger canolfan hamdden yn Nhrelái, Caerdydd, ond nad ydyn nhw wedi dod o hyd i olion dynol.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio darn mawr o dir ger Canolfan Western Leisure ar ôl derbyn gwybodaeth y gallai gweddillion dynol fod wedi cael eu claddu yno oddeutu tair blynedd yn ôl.
Roedd arbenigwyr fforensig wedi bod yn rhan o’r chwilio.
Dywed Heddlu’r De bod yr ymchwiliad bellach wedi dod i ben.