Aelodau o Gymdeithas yr Iaith tu allan i Neuadd y Sir ddydd Llun
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am gyhoeddi cofnodion pwyllgor a gafodd ei sefydlu i hybu’r iaith Gymraeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd y cyngor wedi sefydlu panel ymgynghorol yr iaith Gymraeg ar ôl mabwysiadu strategaeth iaith newydd fis Ebrill diwethaf.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am i gyfarfodydd y panel fod yn
agored i’r cyhoedd a bod cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor er mwyn hybu trafodaeth gyhoeddus.
Ond penderfynwyd Ddydd Llun diwethaf mewn cyfarfod o’r panel nad oedd hyn yn bosibl o ran cyfansoddiad y cyngor.
Bu chwech o aelodau’r Gymdeithas yn Neuadd y Sir ddydd Llun i hedfan barcudiaid coch i ddangos eu bod yn cadw “llygad barcud” ar y Cyngor i sicrhau y bydd y strategaeth iaith yn cael ei gweithredu.
‘Caeedig’
Dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith yn Nyfed: “Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i holl bobl y sir, ac mae’n bwysig fod y cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd a’r cofnodion ar gael i bawb er mwyn hybu trafodaeth gyhoeddus am ddiogelu’r iaith a chymunedau Cymraeg.
“Y Cyngor ei hun sydd wedi penderfynu sefydlu pwyllgor ar ffurf panel ymgynghorol, ac felly ni all hwn fod yn esgus dros gadw’r trafodion yn gaeedig.
“Deallwn fod y Cyngor o bosibl am newid ei gyfansoddiad yn y dyfodol i fod yn fwy agored, ond rydyn ni wedi gwneud cais am ryddhau’r
cofnodion yn awr o dan drefniadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth gan fod amser yn symud ymlaen cyn dechrau gweithredu’r Strategaeth iaith newydd o ddifri.”