Edward Snowden
Mae ffilm ddogfen newydd yn datgelu sut yr aeth Edward Snowden ati i ryddhau dogfennau cyfrinachol yr Asiantaeth Ddiogelwch Cenedlaethol (NSA) mewn gwesty yn Hong Kong.

Cafodd y ffilm ddogfen, Citizenfour, gan y newyddiadurwraig Laura Poitras ei dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Efrog Newydd.

Mae’n cynnwys portread o Edward Snowden, gan gynnwys ei gyfarfodydd cyntaf gyda Laura Poitras a newyddiadurwr y Guardian Glenn Greenwald. Roedd wedi datgelu miloedd o ddogfennau a oedd yn cynnwys rhifau ffôn a chofnodion e-byst nifer o Americanwyr.

O’r dechrau mae’n ymddangos bod Snowden yn ymwybodol iawn y byddai datgelu’r dogfennau yn golygu aberthu ei ryddid ei hun, ond ei fod yn fodlon cymryd y risg.

Cafodd Snowden, cyn-gontractwr gyda’r NSA, ei gyhuddo o dan y Ddeddf Ysbio ac mae bellach wedi cael lloches yn Rwsia, ar ôl ffoi o Hong Kong gyda chymorth sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange.

Bydd Citizenfour yn cael ei rhyddhau ar 24 Hydref.