Yn ystod y rhaglen chwaraeon Clwb brynhawn Sul bydd rasys ceffylau yn cael eu darlledu yn fyw o drac rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf erioed.  Fe geir darllediad byw ecsgliwsif i S4C o rasys 2:15 a 2:45.

Am 2:15 fe ddangosir ‘The Trustmark Design and Print Handicap Hurdle Race’ sy’n 2m a 4f o hyd, ac am 2:45 darlledir ‘The Susan Andrews Memorial Handicap Steeple Chase’ dros bellter o ddwy filltir.  Cyflwynir y rasys gan Shân Cothi, a’r joci a’r cyflwynydd Brychan Llŷr fydd y sylwebydd.  Mewn datganiad dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C:

‘‘Y gobaith yw mai’r rasys yma fydd y cyntaf o nifer o ddarllediadau byw o un o draciau amlycaf Cymru.  Mae’n dangos ein hymrwymiad i ddarlledu’r amrywiaeth ehangaf o chwaraeon o Gymru a’r byd ar Clwb, a gall dilynwyr chwaraeon fod yn hyderus y byddant yn clywed am yr holl ddatblygiadau mawr o’r byd chwaraeon ar Clwb.’’

Bydd y rhaglen yn dechrau am 12:30 b’nawn  Sul.