Dewi Tirion o Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant, Ceredigion wedi gwisgo fel Twm Sion Cati.
Mae plant mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru yn dathlu diwrnod T Llew Jones heddiw.
Mae bywyd y nofelydd a’r bardd o Sir Gaerfyrddin – sgrifennodd glasuron fel Tân ar y Comin a Y Merlyn Du – yn cael ei ddathlu ar ddiwrnod ei ben blwydd, sef 11 Hydref. Byddai wedi bod yn 99 oed eleni.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 2009 penderfynwyd, ar gais ysgolion ledled Cymru, fod y diwrnod yn cael ei bennu i gofio am T Llew Jones er mwyn dathlu ei gyfraniad arbennig i lenyddiaeth plant.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog ysgolion i ddathlu trwy ofyn i’r plant wisgo fel rhai o’u hoff gymeriadau o lyfrau T Llew Jones neu ddarllen ei lyfrau, ysgrifennu darn o waith creadigol a gwneud gwaith celf wedi ei ysbrydoli ganddo.
Cyhoeddodd T Llew Jones dros 50 o lyfrau ac addaswyd nifer o’i weithiau ar gyfer y teledu, gydag eraill yn cael eu cyfieithu i’r Saesneg ac ambell un i ieithoedd eraill megis Llydaweg.