Luke Evans
Cymro o Aberbargod sy’n actio’r brif ran yn ffilm fawr ddiweddaraf Hollywood, Dracula Untold.

Ar ôl cychwyn ei yrfa mewn sioeau cerdd, cafodd Luke Evans, 35, ei gastio ar gyfer ei ffilm Hollywood gyntaf, Clash of the Titans, yn 2010. Ers hynny mae wedi actio mewn sawl cynhyrchiad byd-enwog arall – o The Three Muskateers i Fast and the Furious a The Hobbit.

Dracula Untold, sy’n cael ei dangos mewn sinemâu ledled y byd ar hyn o bryd, yw’r tro cyntaf iddo ymddangos yn y brif ran mewn ffilm fawr.

“Dw i wedi gweithio’n galed iawn, heb stopio ffilmio ers pum mlynedd. Dwi wedi bod yn gweithio fy ffordd yn araf bach i fyny’r ystôl, a dw i wedi mwynhau pob eiliad,” meddai’r actor wrth Walesonline ynglŷn â’i ffilm ddiweddaraf.

“Dw i wedi mwynhau’r broses yn fawr, ac am fy mod i wedi gweithio mor galed, dw i’n teimlo’n barod am y cyfle hwn.”

Yng ngogledd Iwerddon cafodd Dracula Untold ei ffilmio. Mae’n cael ei dangos mewn sinemâu mawr ar hyn o bryd.