Mae BAFTA Cymru a Grŵp Stiwdios Pinewood yn cynnal eu digwyddiad cyntaf ar y cyd heno, fel rhan o bartneriaeth strategol i gefnogi diwydiant ffilm a theledu Cymru.
Mae’r ddau gorff wedi trefnu Parti Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2014, fydd yn gwahodd y bobol sydd wedi eu henwebu am wobr BAFTA Cymru i ddod i ddathlu eu llwyddiant ochr yn ochr ag wynebau cyfarwydd o fyd y teledu a ffilmiau.
Yn y digwyddiad yng Nghaerdydd bydd Cadeirydd BAFTA Cymru Ian Jones, sydd hefyd yn Brif Weithredwr S4C, yn siarad am y tro cyntaf ers cael ei benodi i’r rôl ar ddechrau’r flwyddyn.
‘Cydnabyddiaeth’
“Ar draws y sector cynhyrchu teledu yng Nghymru a’r diwydiannau creadigol yn eu cyfanrwydd, mae bwrlwm creadigol ac awydd i weithio ar y cyd er mwyn cyflawni mwy o lwyddiant,” meddai Ian Jones cyn y digwyddiad.
“Bydd y Parti Enwebeion nid yn unig yn gyfle i longyfarch pawb a gafodd eu cydnabod gydag enwebiadau BAFTA Cymru eleni, ond hefyd dwyn ynghyd rhai o’r bobol fwyaf dawnus yng Nghymru i drafod ein gwaith a chanolbwyntio ar y dyfodol.”
Dywedodd cynrychiolydd o Grŵp Stiwdios Pinewood: “Mae Pinewood wedi bod â pherthynas agos â BAFTA ers sawl blwyddyn. Rydym ni’n gyffrous bod y berthynas honno’n cael ei hymestyn i gynnwys BAFTA Cymru.”
Bydd seremoni BAFTA Cymru yn cael ei chynnal nos Sul, 26 Hydref.