Mae cyrff nifer fawr o bobol sydd wedi marw o Ebola wedi cael eu gadael ar strydoedd Sierra Leone.

Mae’n dilyn streic gan weithwyr sy’n claddu’r cyrff, sy’n honni nad ydyn nhw wedi cael eu talu am eu gwaith.

Mae llefarydd ar ran Gweinidog Iechyd y wlad wedi dweud fod y sefyllfa’n “creu embaras”, ac yn mynnu bod arian ar gael i dalu’r gweithwyr.

Mae lle i gredu bod Ebola wedi lladd mwy na 600 o bobol yn y wlad, gyda hyd at 2,100 o achosion wedi cael eu cadarnhau.

Yn y cyfamser, mae cynorthwyydd nyrsio yn Sbaen yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ym Madrid, lle cafodd nyrs ei heintio ar ôl dod i gysylltiad a dau offeiriad oedd wedi marw o Ebola.

Dydy hi ddim yn glir eto a oedd y cynorthwyydd nyrsio wedi bod yn trin yr offeiriaid.

Mae gŵr y nyrs hefyd yn derbyn gofal yn yr ysbyty.

Mae nyrs arall a pheiriannydd o Sbaen yn holliach yn ôl profion a gafodd eu cynnal yn yr ysbyty.

Mae awdurdodau Sbaen yn cynnal ymchwiliad i sut y cafodd y nyrs ei heintio ac maen nhw’n parhau i fonitro hyd at 50 o bobol oedd wedi dod i gysylltiad â’r nyrs neu wedi trin yr offeiriaid.

Mae’r awdurdodau ym Madrid yn wynebu cyhuddiadu eu bod wedi methu a dilyn canllawiau i drin pobl gydag Ebola a pharatoi gweithwyr iechyd yn ddigonol.