Mae’r Wladwriaeth Islamaidd – neu IS – wedi taro hofrennydd milwrol yn Irac, gan ladd y ddau beilot.

Digwyddodd yr ymosodiad ger tref Beiji, sydd 130 o filltiroedd i’r gogledd o Baghdad.

Cafodd taflegryn ei ddefnyddio i daro’r cerbyd Bell 407 yn y dref sy’n gartref i burfa olew fwyaf Irac.

Dyma’r ail ymosodiad gan y Wladwriaeth Islamaidd ar hofrennydd yn Beiji mewn ychydig ddiwrnodau.

Cafodd yr hofrennydd cyntaf ei daro ddydd Gwener, gan ladd y ddau beilot bryd hynny hefyd.