Mae’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol (MS) yn rhybuddio bod canllawiau newydd gan y sefydliad iechyd NICE am rwystro mynediad i gyffur a thriniaeth “bwysig iawn” i’r cyflwr.

Yn ôl y gymdeithas, mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi diystyru’r cyffur Fampyra yn eu canllawiau, sy’n cael ei ddefnyddio i helpu cleifion sy’n cael trafferth cerdded oherwydd y cyflwr niwrolegol.

“Mae hyn yn benodol yn siomedig ar gyfer pobol sy’n byw gyda MS am mai dyma un o’r tri chyffur sy’n cael eu cynnig iddyn nhw.

“Rydym yn credu fod y dewis i ddiystyru Fampyra yn seiliedig ar gost ac ar asesiad gwallus.”

Mae’r gymdeithas felly yn annog NICE i ystyried y buddion ehangach o’r driniaeth, megis arbedion posib mewn gofal cymdeithasol, ac yn galw arnyn nhw i gynnal ymchwiliad technolegol o’r meddyginiaethau.

Rhai agweddau cadarnhaol

Er bod y gymdeithas yn “siomedig” gyda dewis NICE i ddiystyru’r cyffur Fampyra, mae hefyd yn croesawu rhai agweddau o’r canllawiau newydd ac yn cydnabod fod y sefydliad wedi gwrando ar y gymuned MS.

Un gwelliant amlwg yw bod anogaeth i gleifion MS gael arolwg o’u triniaeth a’u gofal o leiaf unwaith bob blwyddyn.

“Os yw hyn yn digwydd, fe all wella diagnosis a’r driniaeth y mae pobol gydag MS yn ei dderbyn yn sylweddol.”