Roedd un person o Gaerdydd ymhlith 14 a gafodd eu harestio ddoe fel rhan o ymchwiliad i dwyll ariannol gwerth £40 miliwn.

Cafodd cyrchoedd eu cynnal gan yr heddlu ar hyd a lled Cymru a Lloegr ddoe wedi i archwilwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi godi amheuon am alcohol nad oedd treth gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei dalu amdano cyn iddo fynd i mewn i’r farchnad Brydeinig.

Dywed swyddogion fod yr 14 a gafodd eu harestio yn allweddol i’r achos, a’u bod nhw rhwng 25 a 60 oed.

Cafodd £650,000 a phum lori llawn cwrw a gwin eu darganfod o leoliadau yng Nghaerdydd, Llundain, Swydd Essex, Swydd Gaint, Swydd Berkshire, Swydd Gaerhirfryn a Chanolbarth Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi eu bod “wedi ymrwymo i atal twyll alcohol, sy’n tynnu £1 biliwn allan o gyllid y cyhoedd bob blwyddyn, gan effeithio gwasanaethau cyhoeddus a manwerthwyr dilys sy’n gorfod cystadlu â’r farchnad anghyfreithlon”.