Mae llywydd Cymdeithas Bêl-droed Sbaen wedi rhybuddio y gallai timau Barcelona ac Espanyol gael eu gwahardd rhag chwarae yn La Liga, cynghrair uchaf y wlad, pe bai Catalwnia’n cynnal refferendwm tros annibyniaeth.
Dywed Javier Tebas fod rheolau’r gynghrair yn mynnu mai un tîm yn unig o’r tu allan i Sbaen sy’n cael chwarae yn La Liga neu un o brif gystadlaethau Sbaen – ac mae Andorra eisoes wedi llenwi’r bwlch hwnnw.
Pe bai Cymdeithas Bêl-droed Sbaen yn penderfynu cymryd camau yn erbyn dau brif dîm Catalwnia, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw gael caniatâd arbennig gan Lywodraeth Sbaen.
Mae disgwyl i lywodraeth Catalwnia benderfynu o fewn wythnos a fyddan nhw’n parhau i gynnal y refferendwm ar Dachwedd 9, er gwaethaf cyhoeddiad gan Lywodraeth Sbaen y byddai’n anghyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon.