James Chester
Mae James Chester wedi cyfaddef y bydd yn cymryd amser iddo ddatblygu partneriaeth gref ag Ashley Williams yn amddiffyn Cymru – ond mae’n edrych ymlaen at yr her.

Fe fydd Chester yn chwarae’i gêm gartref gyntaf dros Gymru os yw’n cael ei ddewis yn erbyn Bosnia nos Wener, ar ôl bod yn rhan o’r garfan ar gyfer y tripiau diweddar i’r Iseldiroedd ac Andorra.

Dim ond eleni y cyhoeddodd amddiffynnwr Hull, a ddechreuodd ei yrfa yn Manchester United, ei fod am chwarae i Gymru gan fod ei fam yn dod o’r Rhyl.

Y gêm yn Andorra oedd y tro cyntaf i’r gŵr 25 oed chwarae ochr yn ochr â chapten Cymru Williams, ac mae’n edrych ymlaen at weithio ar y bartneriaeth yn y ddwy gêm nesaf.

‘Mwynhau’ y profiad

“Dw i’n meddwl yr hira ‘da chi’n treulio gyda’ch gilydd y gorau fyddwch chi yn y pethau yma,” meddai Chester wrth golwg360.

“Dw i’n hyderus yn fy ngallu, ac mae Ashley ‘di chwarae ar y lefel uchaf ers nifer o flynyddoedd ac wedi dangos cystal chwaraewr ydi o.

“Felly fe fyddwn ni’n gwella fel mae’r gemau yn mynd yn ei flaen, ond mae’n rhywbeth dw i wedi mwynhau hyd yn hyn.”
Mae cael rhywun â phrofiad Williams hefyd wedi helpu Chester i setlo mewn yn nhîm rhyngwladol Cymru.

“Mae Ash yn gapten ar ei glwb a’i dîm rhyngwladol am reswm, mae’n siarad yn dda ac yn trefnu’r hogiau,” meddai Chester.

“Felly mae hynny’n helpu fi fel boi gymharol newydd – y mwyaf o wybodaeth ganddo, y gorau.”

Cymryd lle Collins

Mae’n debygol iawn mai Chester fydd partner Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn ar gyfer gemau nesaf Cymru yn erbyn Bosnia a Chyprus nawr, ar ôl i James Collins dynnu nôl o garfan arall gydag anaf.

Ond does gan Chester ddim bwriad i ildio’i le nôl i amddiffynnwr 31 oed West Ham os yw’r ddau ohonyn nhw’n rhan o’r garfan y tro nesaf.

“Pan ddewisais i ddod fyny i’r lefel rhyngwladol doeddwn i ddim eisiau dod yma i eistedd ar y fainc a gwylio gemau,” mynnodd Chester.

“Dw i eisiau chwarae mewn cymaint o gemau â phosib, ac os alla’i barhau i chwarae ar lefel dda gobeithio y galla’i fod yma am amser hir.”

Bygythiad Dzeko

Y gêm yn erbyn Bosnia nos Wener fydd yn debygol o fod y fwyaf heriol i Gymru, gydag ymosodwr peryglus Manchester City, Edin Dzeko, yn siŵr o beri problemau i Chester a Williams.

Mae’r ddau ohonyn nhw wedi chwarae yn ei erbyn yn yr uwch Gynghrair fodd bynnag, gyda Chester yn gwylio o’r fainc yn ddiweddar wrth i Dzeko sgorio gôl hyfryd yn erbyn Hull.

Ac mae Chester yn cyfaddef y bydd angen iddo fod ar ei orau er mwyn atal y gŵr o Fosnia rhag cosbi Cymru.

“Mae o [Dzeko] wedi dangos ers iddo ddod i’r Uwch Gynghrair pa mor dda ydi o,” meddai Chester.

“Fel dwedais i, mae’n dda iawn ac fe fydd yn rhaid i mi fod yn wyliadwrus iawn ar nos Wener.

“Byddai’n astudio’r fideos a phethau felly yn ystod yr wythnos – fe fyddai’n well gen i fod wedi chwarae yn ei erbyn [gyda Hull], ond wrth eistedd yno’n gwylio ‘dach chi dal yn gweld pa mor dda ydi o.”