Halifax 2–2 Wrecsam
Sgoriodd Louis Moult yn y munudau olaf i gipio pwynt i Wrecsam yn erbyn deg dyn Halifax yn y Shay nos Fawrth.
Y tîm cartref oedd ar y blaen ar yr egwyl ond unionodd Wrecsam toc cyn yr awr wedi i Halifax fynd lawr i ddeg dyn. Y deg dyn serch hynny a gafodd y gôl nesaf ac roedd angen gôl hwyr ar y Cymry i gipio pwynt yn y diwedd.
Chwe munud yn unig oedd ar y cloc pan greodd Scott Boden gôl agoriadol y tîm cartref i Danny Schofield, ac felly yr arhosodd pethau tan yr egwyl.
Yn gynnar yn yr ail gyfnod roedd Halifax i lawr i ddeg dyn wedi i Marc Roberts dderbyn cerdyn coch am dacl wael.
Buan iawn wedyn yr oedd Moult wedi penio Wrecsam yn gyfartal o groesiad Neil Ashton, ond ychydig dros funud yn ddiweddarach roedd Halifax yn ôl ar y blaen diolch i ergyd Danny Hattersley.
Roedd hi’n ras yn erbyn amser i Wrecsam achub y pwyntiau wedi hynny ond bu rhaid iddynt fodloni ar un yn unig diolch i ail gôl Moult, gyda Ashton yn creu eto.
Mae Wrecsam yn llithro i’r wythfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama.
.
Halifax
Tîm: Glennon, K. Roberts, M. Roberts, Williams, McManus, Smith (Pearson 56′), Ainge, Marshall, Schofield (Maynard 77′), Boden (Peniket 70′), Hattersley
Goliau: Schofield 6’, Hattersley 61’
Cardiau Melyn: K. Roberts 36’, Ainge 46’
Cerdyn Coch: M. Roberts 51’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Carrington, Hudson, Smith, Ashton, Harris, Clarke, Keates (Durrell 71′), York, Moult, Jennings (Bishop 71′)
Goliau: Moult 59’, 84’
Cerdyn Melyn: Harris 90’
.
Torf: 1,617