Bale yng ngêm gartref ddiwethaf Cymru yn erbyn Gwlad yr Ia ym mis Mawrth (llun: PA)
Mae disgwyl y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn agos at fod yn llawn pan fydd Cymru’n herio Bosnia-Herzegovina yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 nos Wener.

Heddiw fe ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod wedi gwerthu rhyw 25,000 eisoes ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac maen nhw bellach wedi agor rhan uchaf Eisteddle Ninian ar gyfer rhagor o docynnau.

Gyda’r disgwyl y bydd rhagor o gefnogwyr yn ceisio prynu tocynnau ar ddiwrnod y gêm, mae’n golygu’i fod yn debygol y bydd y stadiwm, sy’n dal 33,000 o bobl bellach, yn agos at fod yn llawn.

Mae hynny er bod chwaraewyr allweddol fel Aaron Ramsey a Joe Allen yn absennol ag anafiadau, gydag eraill fel James Collins, Paul Dummett a Lee Evans nawr wedi ymuno â nhw gan dynnu allan o’r garfan.

Ond mae prif seren Cymru Gareth Bale yn ffit i chwarae, ac fe fydd y cefnogwyr hynny’n gobeithio y gall ailadrodd ei ddoniau o Andorra, pan sgoriodd Bale gôl hwyr i ennill y gêm agoriadol yn y grŵp.

Torf fwyaf erioed

Hon fydd y dorf fwyaf erioed i wylio Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn uwch na’r 23,000 wyliodd gêm ragbrofol Cymru yn erbyn yr Alban yno ddwy flynedd yn ôl, a gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica.

Ac mae amddiffynnwr dde Cymru Chris Gunter yn credu y gallai hynny wneud y gwahaniaeth.

“Dyma ni gyda dwy gêm gartref mewn rhywle rydyn ni wedi chwarae’n aml, ac rydyn ni’n hyderus,” meddai Gunter.

“Chi wastad yn clywed chwaraewyr a chefnogwyr yn dweud fod y dorf yn medru’ch helpu chi, y 12fed dyn ac yn y blaen, a fi’n siŵr fod cefnogwyr weithiau’n meddwl mai siarad gwag yw hynny.

“Ond fi’n siŵr erbyn nos Wener pan fydd ‘na 25,000 i 30,000 yn cefnogi, y bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth, a gobeithio gallwn ni berfformio iddyn nhw, cael y tri phwynt a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n dod nôl nos Lun.”

Gwell na’r Mileniwm

Tridiau ar ôl chwarae Bosnia fe fydd Cymru nôl yn herio Cyprus yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw barhau ar y siwrne o geisio cyrraedd Ewro 2016 mewn dwy flynedd.

Ac yn ôl y chwaraewr canol cae Joe Ledley, byddai’n well ganddo ef chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd na symud nôl i Stadiwm y Mileniwm ar hyn o bryd.

“Dy’n ni heb gael y torfeydd o’r blaen … a nawr bydd e’n wych i ni, mae’n profi’n bod ni’n gwneud y pethau iawn ar y cae,” meddai Ledley.

“Rydym ni’n gwybod y byd hi’n gêm anodd, ond mae’n grêt chwarae o flaen torf lawn, yn enwedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd e’n llawn cefnogwyr Cymru a llawn angerdd.

“I mi mae’r awyrgylch yn well yn Stadiwm Dinas Caerdydd a’r Liberty [yn Abertawe], mae’r cefnogwyr yn agosach i chi … ond os ydyn ni’n parhau i wella, byddai’n grêt dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm lawn, byddai hynny’n wych.”