Milwyr Twrci yn gwarchod y ffin a Syria, ger tref Kobani
Mae’r Weinyddiaeth Islamaidd (IS) ar fin cipio tref allweddol yn Syria sydd ar y ffin â Thwrci, gan sbarduno ymladd ffyrnig gyda milwyr Cwrdaidd sy’n amddiffyn y dref.
Oriau’n unig wedi i’r grŵp eithafol godi dau o’u baneri du ar gyrion Kobani, fe wnaethon nhw dorri trwy linell amddiffynnol y Cwrdiaid a symud i mewn i’r dref ei hun.
Ond mae canol y dref yn dal i fod yn nwylo’r Cwrdiaid ar hyn o bryd.
Ers dechrau eu hymgyrch yng nghanol mis Medi, mae IS wedi meddiannu un pentref Cwrdaidd ar ôl y llall wrth iddyn nhw symud tuag at Kobani, eu prif darged.
Mae’r ymosodiad wedi gorfodi tua 160,000 o bobl i ffoi ac wedi rhoi straen ar rymoedd y fyddin Cwrdaidd, a hynny er gwaethaf ymosodiadau awyr gan yr Unol Daleithiau ac eraill ar safleoedd IS.
Mynegodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, “bryder difrifol” am yr ymosodiad ar Kobani.
Yn sgil yr “ymgyrch farbaraidd” gan IS, meddai llefarydd ar ran Ban Ki-moon ei fod yn “galw ar frys ar y rhai sydd â’r modd i wneud hynny i weithredu ar unwaith i amddiffyn y boblogaeth sifil sydd dan warchae yn Kobani.”