Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey
Bydd £100 miliwn yn ychwanegol ar gael i berchnogion tai i ariannu gwelliannau i’r cartref sy’n arbed ynni.

Mae’r cyllid ychwanegol wedi cael ei gyhoeddi oherwydd bod yr arian o’r gronfa wreiddiol wedi cael ei ddefnyddio o fewn tri mis yn sgil ei boblogrwydd.

Roedd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa gwella cartrefi – y Fargen Werdd – yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Glasgow.

Dywedodd hefyd bod cynnydd yn cael ei wneud i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr newid cyflenwyr ynni er mwyn lleihau eu biliau.

Ac fe wnaeth o osod targed – a gafodd ei ddisgrifio fel un “uchelgeisiol” – y byddai 30% o’r farchnad ynni yn nwylo cwmnïau annibynnol llai yn hytrach na’r “Chwech Mawr” erbyn 2020.

A chadarnhaodd gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig gostyngiad mewn treth gyngor, a fydd yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth, o £100 y flwyddyn dros y 10 mlynedd nesaf os yw pobl yn gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Mae cwmnïau annibynnol llai wedi cynyddu eu cyfran o’r farchnad o 1% i bron i 8% ers i’r Glymblaid ddod i rym, gyda dwy filiwn o gwsmeriaid erbyn hyn yn cael eu hynni gan gwmnïau y tu allan i’r “Chwech Mawr”.

Mae miliwn o’r rheini wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf.