Arnis Zalkalns
Mae Scotland Yard wedi cadarnhau mai corff Arnis Zalkalns y cafwyd hyd iddo mewn coedlan yng ngorllewin Llundain.
Roedd Zalkalns, 41 oed, yn cael ei amau o lofruddio’r ferch ysgol Alice Gross.
Mae archwiliad post mortem yn dangos bod Zalkalns wedi crogi ei hun. Cafwyd hyd i’w gorff mewn coedlan yn Boston Manor Park, gorllewin Llundain ddydd Sadwrn.
Nid oes tystiolaeth bod unrhyw un arall wedi bod yn gysylltiedig â’r farwolaeth.
Fe ddiflannodd Alice Gross, 14 oed, o Hanwell yng ngorllewin Llundain ar 28 Awst a chafwyd hyd i’w chorff yn Afon Brent ddydd Mawrth diwethaf.