Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod heddiw i drafod parhau gyda gwneud arbedion o £4.3 miliwn ar gyfer ysgolion.

Mae’r cyngor eisoes wedi cytuno gyda bwriad y Cabinet i gynllunio ar gyfer darganfod arbedion gwerth £34m ychwanegol dros y 3 blynedd nesaf er mwyn ymateb i’r “hinsawdd ariannol yr ydym yn debygol o’i wynebu”.

Mae £4.3 miliwn yn cyfateb i 6% o gyllideb ysgolion y sir ond yn ôl adroddiad gan aelod o’r Cabinet, y Cynghorydd Peredur Jenkins, bydd y targed yna’n parhau “diogelu ysgolion o’i gymharu gyda gwasanaethau eraill”.

Mae Gwasanaeth Plant y sir yn wynebu 16.8% o doriad; bydd Gwasanaeth Addysg Canolog yn colli 16.4% o’u cyllideb a Gwasanaeth Henoed yn colli 14.4%.

Bydd y Cabinet heddiw’n trafod os ydyn nhw am fwrw mlaen gyda thoriadau o £4.3 miliwn o gyllideb ysgolion; gosod targed is gan dderbyn y byddai angen i wasanaethau eraill wynebu rhagor o doriadau; neu osod targed uwch er mwyn lleihau’r effaith ar wasanaethau eraill.

Meddai prif weithredwr y cyngor, Dilwyn Williams: “Yn amlwg, mae hwn yn benderfyniad eithriadol o anodd o ran y cydbwysedd rhwng y pwysau ariannol ar ysgolion ar y naill law a’r pwysau ar wasanaethau eraill sydd, fel y gwelir o’r adroddiad, yn wynebu canrannau sylweddol uwch o ran arbedion.

“Wrth gwrs, mae unrhyw elfen o warchodaeth ar ysgolion yn gosod mwy o bwysau ar wasanaethau eraill o ran arbedion effeithlonrwydd a hefyd, maes o law, ar doriadau.

“Wedi dweud hynny, rhaid gosod y targed yn rhywle ac mae’r hyn a argymhellir yn cynnig parhad o roddi gwarchodaeth sylweddol i ysgolion ac yn gyson gyda’r hyn sydd wedi ei awgrymu mewn adroddiadau blaenorol.”

Bydd y Cabinet yn cyfarfod am 1 o’r gloch y prynhawn ma.